Beth yw cawl yn Saesneg?

Fel ymchwilydd bywgraffyddol, sy’n astudio siaradwyr Cymraeg hŷn, mae gen i’r her a’r fraint o gario geiriau pobl ar draws ieithoedd, fel bod siaradwyr Saesneg yn gallu clywed lleisiau a dysgu am brofiadau na fyddent o bosibl yn dyst iddyn nhw fel arall. Mae trosglwyddo naratifau cyfranogwyr i eiriau sydd ag ystyr i’m cynulleidfa yn broses ofalus; lle mae rhagdybiaethau yn peri risgiau ac nid oes modd cymryd dealltwriaeth yn ganiataol. Y wobr yw rhoi cipolwg i bobl ar fyd rhywun arall a rhoi llais i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.

Ond beth sydd â ‘chawl’ i wneud â hyn? Mae Cawl yn enghraifft o’r problemau a wynebir wrth ddehongli ieithoedd lleiafrifol ar gyfer cynulleidfa fwyafrifol. Wrth ateb y cwestiwn beth yw cawl yn Saesneg rhaid llywio rhai o’r anawsterau cynhenid wrth gyfieithu a chyfleu ystyr rhwng un iaith a diwylliant i’r llall.

Trwy achos o gawl byddaf yn dangos sut mae cyfieithu yn fwy na dim ond yn gyfnewid o eiriau a sut mae’r siaradwr, y cyfieithydd a’r gynulleidfa oll yn chwarae rhan wrth symud ystyr rhwng ieithoedd.

Ond, yn ôl at gawl. Beth yw cawl?

Mae Geiriadur.com yn cynnig pedwar cyfieithiad posib ar gyfer y gair cawl sef

  • Sŵp
  • Potes
  • Llanast
  • Hotpotch

Mae gan y pedwar gair hwn o leiaf ddau ystyr ac maent yn dangos yr angen cychwynnol i ddeall cyd-destun, wrth geisio cyfieithu. Y cawl rydyn ni am ei fynegi yn Saesneg yw’r math o sŵp / potes, nid ‘cawlach’ neu lanast y defnyddir y gair ar ei gyfer hefyd.

  • A oes gennym ein hateb yn awr, ai cawl yn unig yw sŵp neu botes? O bosibl, ond nid yn hollol.

Fel mae Buden et al (Buden B, 2009) yn esbonio, nid mewn geiriaduron y mae’r ateb i gyfyng-gyngor cyfieithwyr ond wrth ddeall ystyr a chyd-destun cymdeithasol geiriau. Fel gair, mae cawl yn debyg i gwtsh neu joio, yn yr ystyr ei fod yn mwynhau arwyddocâd diwylliannol, mae’n air Cymraeg sy’n disgrifio rhywbeth sydd hefyd yn Gymreig ei natur. Mae hyn yn gwneud y broses o drosglwyddo hanfod y bowlen arbennig hon o gawl o’r Gymraeg i’r Saesneg, heb sarnu ystyr, yn anodd.

Gadewch i ni ddechrau gan edrych yn ddyfnach i’r cawl yr ydym yn ceisio ei ddisgrifio. Yn gyntaf, mae angen i ni ddeall bod cawl yn ei hunan yn bwnc sy’n ddehongliad gwahanol ac yn syml, efallai na fydd fy nghawl innau’r un peth â’ch cawl chithau.

Credir bod rysáit Cawl wedi tarddu o’r 14eg Ganrif ac felly heddiw bydd ganddi amrywiaeth sylweddol yn rhanbarthol, yn lleol a hyd yn oed teuluol. Mae Cawl i fy mam yn ddysgl debyg i stiw cig oen a llysiau, wedi’i goginio mewn padell. Mae Cawl yn golygu’r un peth i mi, ond heb y cig. Efallai bod cawl un arall wedi dod o’r un gwraidd â fy un innau ond bod ganddo gynhwysyn gwahanol yn y cymysgedd. Mae’r gwahaniaethau yma’n gwneud cyfieithu cawl yn fwy anodd a chyn i rywun ddweud beth yw cawl yn Saesneg, yn gyntaf mae angen iddynt sefydlu beth a olygu’r gan gawl ar ran y siaradwr.

Nesaf, mae angen i ni ystyried sut i drosglwyddo’r ystyr gwreiddiol o’r siaradwr i greu dealltwriaeth ar ran un arall. Mae rôl y cyfieithydd yn allweddol i’r trafodion yma.

Temtasiwn yw edrych ar gyfieithiad fel gweithred ddiduedd o gario geiriau ac ystyr o iaith i iaith arall; nid dyma’r achos. Mae cyfieithiad yn llawn gwerth. Bydd unrhyw un sydd wedi chwarae’r gêm sibrwd lle mae ymadrodd yn cael ei drosglwyddo o un person i’r llall mewn cadwyn, yn deall y risgiau o gamddehongli neu o glywed yr hyn y mae rhywun yn ei feddwl sy’n cael ei ddweud.

Yn yr enghraifft hon mae dealltwriaeth y cyfieithydd o gawl yr un mor bwysig â dealltwriaeth y siaradwr. Efallai y bydd cyfieithydd sydd wedi arfer â rysáit gyda mwy neu lai o unrhyw gynhwysion yn deall fy nghymysgedd stiw, cawl neu botes llysieuol yn wahanol. Efallai nad ydyn nhw erioed wedi blasu cawl ac felly’n brin o unrhyw gyfeiriadau i’w cyfieithu; sut felly y gallwn ymddiried ynddynt i wybod ystyr cawl i mi ac i gyflwyno hyn mewn ffordd y byddai’r gynulleidfa yn ei ddeall?

Gan fod angen i ni ystyried y risg o bleidgarwch ar ran y cyfieithydd, felly hefyd mae angen i ni ddeall sefyllfa’r gynulleidfa. Er mwyn llwyddo i egluro i rywun beth yw cawl yn Saesneg, mae angen i ni wybod sut i wneud synnwyr o gawl iddyn nhw. Mae Xian (Xian, 2008) yn disgrifio’r broses hon fel adrodd stori yng ngeiriau rhywun arall. Felly, i wybod beth yw cawl yn Saesneg, mae angen i ni wybod beth a olyga hyn i’r gynulleidfa. Beth a allai cawl ei olygu iddyn nhw? Bydd hyn yn dibynnu ar eu profiad a’u pwyntiau cyfeirio diwylliannol. Gallai Cawl yn Merseyside efallai ei ddisgrifio orau fel rhywbeth tebyg i Scouse, neu Blind Scouse ar gyfer llysieuwyr, yng Nghaerhirfryn efallai y gallai Hot Pot fod yn gymhariaeth agosach. Mae gwybod beth fyddai’r gynulleidfa yn ei ddeall yn ein helpu ni i gyfieithu beth yw cawl.

I grynhoi, i ateb y cwestiwn ‘beth yw cawl yn Saesneg?’ mae angen i ni ofyn o leiaf y pedwar cwestiwn canlynol?

Yn gyntaf, ym mha gyd-destun yr ydym yn cyfeirio at gawl? Mae cyd-destun yn helpu i roi ystyr i eiriau o ymadroddion.

Yn ail, beth a olyga’r gair cawl i’r siaradwr? Mae angen i ni wybod beth sy’n cael ei ddweud er mwyn cyfleu hyn i un arall.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s