Pam nad ellir anwybyddu’r iaith Gymraeg mewn argyfwng iechyd

Pam nad ellir anwybyddu’r iaith Gymraeg mewn argyfwng iechyd

Dros y misoedd diwethaf mae ysbytai Cymraeg wedi cwrso i greu lle ar eu wardiau i ofalu am y cynnydd arfaethedig yn y nifer o gleifion Cofid -19. Mae cleifion wedi cael eu hanfon adre yn gynt nag o’r blaen.

Ar Ebrill 7ed cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu canllawiau Anghenion Gwasanaeth Rhyddhau o’r Ysbyty https://gov.wales/hospital-discharge-service-requirements-covid-19 er mwyn cefnogi’r rhai hynny oedd yn digon iach i adael yr ysbyty yn gynt . Mae’r canllawiau yma yn atal y protocol Dewis Llety, sydd yn golygu bod y cleifion hynny and ydynt angen bod yn yr ysbyty yn cael mynd oddi yno.  Mae’r rhein’ny and ydynt yn medru mynd adre yn cael eu lleoli mewn cartref gofal, heb unrhyw angenrhaid i hwn fod yn ddewis y claf neu’r teulu. Mae’r newid yma wedi bod yn effeithiol mewn creu lle o fewn ysbytai i ofalu am cleifion efo Cofid-19, ond ydyn nhw wedi llwyddo i gwrdd ag anghenion diwylliannol a ieithyddol y rhai hynny wedi eu hanfon i gartrefi gofal?

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru weithredu’r Safonau Iaith http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/441/made a dywed rhain bod gan bobl hawl statudol i dderbyn eu holl ofal trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai Byrddiau Iechyd ddarparu hwn trwy’r “Cynnig Rhagweithiol” o wasanaeth Cymraeg i cleifion, heb fod angen gofyn am un. Roedd cyflwyno’r Cynnig Rhagweithiol a dod o hyd i ofal i siaradwyr Cymraeg oedd yn cwrdd a’u hanghenion ieithyddol a diwylliannol yn ddigon anodd cyn-Cofid, faint yn anoddach ydy e yng nghanol y pandemig?

Mae cyfathrebu yn eich mamiaith yn bwysig. Mae yna dystiolaeth rhyngwlaodol o’r effaith mae iaith yn ei gael, nid yn unig ar brofiad pobol o ofal, ond hefyd ar eu canlyniadau iechyd. Mi all hwn gael effaith sylweddol ar bobl, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi dioddef stroc neu sydd â Dementia ac sydd wedi collu eu Saesneg https://www.alzheimers.org.uk/dementia-together-magazine/june-july-2019/losing-your-english-reverting-your-mother-tongue-dementia.

Mae rhwystrau ieithyddol yn cael effaith ar gymdeithasu ac yn peryglu bod y  siaradwyr Cymraeg sydd mewn gofal ddi-Cymraeg yn dioddef o unigrwydd a’r sgil effeithiau negyddol ar eu iechyd a’u lles https://hiraethcymru.com/ Gyda ffrindiau a theulu yn methu ymweld mi fydd dyddiau ac wythnosau yn gallu mynd heibio heb fod pobl yn gallu cyfathrebu y neu mamiaith.

Wythnos yma rydyn ni wedi clywed hanes Ray Mc Dermott, sydd yn 96 sydd yn byw yn Ohio ac eisiau siarad iaith ei phlentyndod unwaith eto. Mae siaradwyr Cymraeg ledled byd

wedi anfon cyfarchion a chynnig sgyrsio efo’r ddynes yma. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-52700484   Mae nid yw’r gofid o fethu defnyddio’ch mamiaith yn unigryw i ochr draw Môr yr Iwerydd – caiff ei rannu gan siaradwyr Cymraeg yn nes at  adre.

Wrth i’n gwasanaethau cyhoeddus ystyried  pig cyntaf Cofid-19 yng Nghymru a cheisio dysgu gwersi am unrhyw gynnydd mewn galw, yr her i Fyrddai Iechyd ac Awdurdodau Lleol ydy i sicrhau bod yr Iaith Gymraeg yn cael ei ystyried, nid fel elfen ddiangen o gofal, ond yn cael ei gydnabod fel hawl a rhan cynhenid o gynllunio gofal wedi ei canoli ar y claf, yn gyfartal â ffactorau clinigol. Mae angen i gynllunwyr gofal ystyried sut y gellir asesu a chwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg bob dydd, ond yn enwedig yn y dyddiau anodd yma.  A hyn er mwyn sicrhau and yw siaradwyr Cymraeg yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda’u hiaith mewn lleolia gofal anaddas.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s